Cartref i dalentau gwych.

Mae rhai o berfformwyr, awduron, cyfarwyddwyr a chynllunwyr gorau’r byd wedi gweithio gyda ni.

Mae ein pum Cyfarwyddwr Artistig – George Roman, Toby Robertson, Helena Kaut-Howson, Terry Hands a nawr Tamara Harvey wedi denu rhai o’r bobl fwyaf talentog ym myd y theatr i weithio ar ein llwyfannau ni.

Edrychwch ar ddetholiad bychan o gyn-gysylltiadau Theatr Clwyd isod!

Cartref i dalentau gwych.

Mae rhai o berfformwyr, awduron, cyfarwyddwyr a chynllunwyr gorau’r byd wedi gweithio gyda ni.

Mae ein pum Cyfarwyddwr Artistig – George Roman, Toby Robertson, Helena Kaut-Howson, Terry Hands a nawr Tamara Harvey wedi denu rhai o’r bobl fwyaf talentog ym myd y theatr i weithio ar ein llwyfannau ni.

Edrychwch ar ddetholiad bychan o gyn-gysylltiadau Theatr Clwyd isod!

Perfformwyr

Katherine Parkinson

Katherine Parkinson oedd y wraig tŷ berffaith o’r ’50au yn Home, I’m Darling a agorodd yn Theatr Clwyd cyn cyfnod yn y National Theatre ac wedyn trosglwyddo i’r West End. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei rhannau yn The IT Crowd, Doc Martin a Humans.

Timothy Dalton

Perfformiodd Timothy Dalton gyda Theatr Clwyd yn Anthony and Cleopatra a The Taming of The Shrew yn Theatr Clwyd. Mae’n fwyaf adnabyddus fel James Bond yn The Living Daylights a Licence to Kill, yn ogystal â rhannau yn Jane Eyre, a Hot Fuzz.

Rhys Ifans

Roedd Rhys Ifans yn aelod o Theatr Ieuenctid Theatr Clwyd. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei rannau yn Notting Hill, Enduring Love, Kevin & Perry Go Large, The Amazing Spider-Man a Harry Potter and the Deathly Hallows. Roedd hefyd yn aelod o’r grŵp roc Super Furry Animals.

Anthony Hopkins

Cyfarwyddodd ac actiodd Syr Philip Anthony Hopkins CBE (Silence of the Lambs, The Remains of the Day, Nixon, The Elephant Man) yn August, addasiad o ddrama Anton Chekhov, Uncle Vanya. Mae ein prif theatr wedi cael ei henwi er anrhydedd iddo!

Phylip Harries

Mae ein dêm panto enwog, Phylip Harries, wedi ymddangos mewn sawl sioe dros y blynyddoedd, gan gynnwys The Government Inspector (1996), A Midsummer Night’s Dream (2008) a The Little Shop of Horrors (2015).

Vanessa Redgrave

Mae Vanessa Redgrave CBE wedi cael ei henwebu am Oscar chwe gwaith ac mae wedi serennu mewn mwy na 35 o gynyrchiadau yn y West End yn Llundain ac ar Broadway. Yn 1986 chwaraeodd ran Cleopatra i Marc Anthony Timothy Dalton ar ein llwyfan ni.

Owen Teale

Actor enwog gyda’r National Theatre, yr RSC a’r Royal Court. Mae Owen yn adnabyddus am ei rannau yn Stella a Game of Thrones. Mae wedi ymddangos gyda ni yn y cynyrchiadau a gyfarwyddwyd gan Terry Hands o Macbeth, Mary Stuart (2009) ac Under Milk Wood (2014).

Timothy West

Actor llwyfan a sgrin enwog tu hwnt a daeth Tim West i berfformio gyda ni fel Willy Loman yn Death of a Salesman (1993) ac fel Macbeth yn 1994.

Steffan Rhodri

Mae Steffan Rhodri o Gymru yn fwyaf adnabyddus fel Dave Coaches yn Gavin & Stacey ac fel Reg Cattermole yn Harry Potter and the Deathly Hallows. Mae ei sioeau yn Theatr Clwyd yn cynnwys The Birthday Party, Great Expectations Mary Stuart a Cyrano De Bergerac.

Marina Hands

Mae hi fwyaf adnabyddus am ei pherfformiad a enillodd iddi Wobr César fel Lady Chatterley yn yr addasiad ffilm yn 2006. Camodd Marina ar lwyfan yn y DU am y tro cyntaf yn Theatr Clwyd yn 2009 ym mhrif ran Mary Stuart yn cael ei chyfarwyddo gan ei thad, Terry Hands.

Ralph Fiennes

Ymddangosodd Ralph Fiennes (Schindler's List, The English Patient) yn ifanc yng nghynhyrchiad cyntaf ein hail Gyfarwyddwr Artistig, Toby Robertson, sef Night & Day gan Tom Stoppard yn 1985.

Hattie Morahan

Serennodd Hattie Morahan, sydd wedi ennill gwobr Olivier a gwobr yr Evening Standard, yng nghynhyrchiad Tamara Harvey o Orpheus Descending gan Tennessee Williams, a drosglwyddodd i’r Menier Chocolate Factory yn Llundain.

Ysgrifenwyr

Laura Wade

Mae Laura yn ddramodydd enwog sydd wedi ennill gwobrau a chafwyd premiere ein cynhyrchiad ni o’i drama Home, I’m Darling yma yn Sir y Fflint cyn trosglwyddo i’r National Theatre lle enillodd Wobr Olivier. Mae ei drama Posh, y ddrama gomedi sy’n sail i’r ffilm yn 2014, The Riot Club, yn dod i Theatr Clwyd yr hydref yma.

James Graham

Mae’r dramodydd James Graham yn fwyaf adnabyddus am ei ddramâu sy’n gwerthu pob tocyn yn y National Theatre ac yn ennill bri’r beirniaid ar yr un pryd. Hefyd ysgrifennodd A History of Falling Things, a gyfarwyddwyd gan Kate Wasserberg, gyda’r premiere yn Theatr Clwyd yn 2009.

Alan Harris

Mae Alan Harris yn ddramodydd llwyddiannus o Gymru sydd wedi ennill sawl gwobr. Ysgrifennodd gynhyrchiad ar y cyd Theatr Clwyd a Paines Plough, Love, Lies and Taxidermy, ac mae’n addasu A Christmas Carol gan Charles Dickens ar ein cyfer y Nadolig yma.

Manon Eames

Mae ei haddasiadau a’i dramâu ar gyfer Theatr Clwyd yn cynnwys Rape of the Fair Country gan Cordell, A Toy Epic, Porth y Byddar, Drowned Out, Celf, Hosts of Rebecca a Song of the Earth.

Pobl greadigol

Tamara Harvey

Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd yw un o gyfarwyddwyr mwyaf blaenllaw y DU – mae wedi cyfarwyddo ledled y DU ac yn y West End. Mae ei sioeau’n cynnwys Orpheus Descending a’r ddrama a enillodd wobr Olivier, Home, I'm Darling.

Terry Hands

Roedd y cyfarwyddwr enwog Terry Hands CBE yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd rhwng 1997 a 2015, ar ôl sylfaenu’r Everyman Theatre yn Lerpwl cyn hynny a bod yn Gyfarwyddwr Artistig ar y Royal Shakespeare Company.

Anna Fleischle

Y cynllunydd llwyfan a gwisgoedd sydd wedi ennill sawl gwobr, Anna Fleischle, gynlluniodd sioe Home, I’m Darling Theatr Clwyd (cyfarwyddwyd gan Tamara Harvey) a Thaith 20fed Pen Blwydd Rent yn 2016/17.

Rufus Norris

Cyfarwyddwr sydd wedi ennill sawl gwobr a Rufus Norris yw Cyfarwyddwr Artistig presennol y National Theatre. Cyfarwyddodd Rosa Carnivora i Theatr Clwyd.

Kate Wasserberg

Cyfarwyddwr Artistig Out of Joint a Chyfarwyddwr Artistig a sylfaenodd The Other Room yng Nghaerdydd. Roedd Kate yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Clwyd a chyfarwyddodd sioeau eiconig, gan gynnwys Aristocrats, Glengarry Glen Ross a The Glass Menagerie.

Nina Dunn

Mae Nina Dunn yn Gynllunydd Fideos a Thaflunio sydd wedi ennill gwobrau a chwaraeodd ran greiddiol yn y gwaith o lwyfannu sioe gerdd lwyddiannus Theatr Clwyd, The Assassination of Katie Hopkins, yn 2018.

Phillip Breen

Cyfarwyddwr a dramodydd enwog sydd wedi gweithio ym mhob cwr o’r byd. Mae ei sioeau yn Theatr Clwyd yn cynnwys Cyrano De Bergerac, Measure For Measure, Cariad, Two Princes a Suddenly Last Summer.

Tim Baker

Roedd Tim yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Clwyd, ac yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Pobl Ifanc Theatr Clwyd. Ymunodd yn 1997 ac ysgrifennodd a chyfarwyddodd fwy nag 80 o gynyrchiadau, a’r mwyaf nodedig oedd To Kill a Mockingbird yn 2002.

Christian Patterson

Mae’r arobryn Christian Patterson wedi perfformio, ysgrifennu a chyfarwyddo ar ein cyfer ni. Mae ei sioeau’n cynnwys All My Sons, As You Like It, Portrait of the Artist as a Young Dog, Under Milk Wood, Wave Me Goodbye a Dick Whittington.

Nikolai Foster

Cyfarwyddwr Artistig presennol The Curve yng Nghaerlŷr ac mae ei waith wedi cael ei weld ym mhob cwr o’r byd. Yn 2012, cyfarwyddodd Nicolai Merrily We Roll Along gan Stephen Sondheim ar gyfer Theatr Clwyd.

Robert Hastie

Cyfarwyddwr Artistig presennol Sheffield Theatres a gyfarwyddodd sioe gerdd lwyddiannus Richard Hawley yn ddiweddar, Standing at the Sky’s Edge. Cyfarwyddodd gynhyrchiad Theatr Clwyd o Cat on a Hot Tin Roof yn 2016.

Lucy Osborne

Y cynllunydd setiau a gwisgoedd sydd wedi ennill gwobrau ac a oedd yn gyfrifol am ein sioe gerdd The Assassination of Katie Hopkins. Hefyd, mae Lucy wedi cynllunio Roundabout, lleoliad pop-yp gyda 168 o seddau lle rydym wedi dangos premiere 9 o’n sioeau!