"Rwy'n mentro dweud y bydd [adeilad Theatr Clwyd] ymhen ychydig flynyddoedd yn cael ei ystyried yn weithred o ddewrder a rhagwelediad mawr a fydd wedi dod â mwynhad mawr a dimensiwn newydd yn ansawdd bywyd."

T.M. Haydn Rees (1972)

"Rwy'n mentro dweud y bydd [adeilad Theatr Clwyd] ymhen ychydig flynyddoedd yn cael ei ystyried yn weithred o ddewrder a rhagwelediad mawr a fydd wedi dod â mwynhad mawr a dimensiwn newydd yn ansawdd bywyd."

T.M. Haydn Rees (1972)

Haydn Rees, Prif Weithredwr Cyngor Sir Clwyd, yn dechrau siarad ynghylch pam mae pobl Gogledd Cymru’n haeddu cael cyfleusterau diwylliannol cystal â’r rhai dros y ffin.

Gyda Neuadd y Sir yn agor – “beiddgar a gwych yn bensaernïol” – ynghyd â’r Llys Cyfreithiol a’r Llyfrgell, dechreuwyd meddwl am y syniad o ‘Ganolfan ar gyfer y Celfyddydau’ ar gyfer Gogledd Cymru.

Adroddiad cyngor yn awgrymu adeiladu neuadd gyngerdd gyda 1400 o seddau, theatr gyda 500 o seddau, ‘canolfan hyfforddi cwricwlwm a chymhorthion clyw-weledol addysgol’, stiwdio deledu, ystafell arddangos a chanolfan grefftau a gweithgareddau.

Oherwydd amgylchiadau economaidd, mae’r cynlluniau’n cael eu creu ar raddfa lai i gynnwys prif theatr, theatr stiwdio, neuadd ddawns gyffredinol, stiwdio deledu a cham un canolfan Technoleg Addysgol.

Y gwaith yn dechrau gyda grant o £300,000 gan yr Arglwydd Eccles, Y Gweinidog ar gyfer y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Penodi George Roman (1976-1985) yn Gyfarwyddwr Artistig a Roger Tomlinson (1976-1983) yn Rheolwr Cyffredinol.

Mae Roman a Tomlinson yn cynnig i’r gynulleidfa repertoire rhyngwladol amrywiol, ac ymrwymiad i gefnogi gwaith dramodwyr o Gymru yn y ddwy iaith.

Ei Mawrhydi Y Frenhines, ynghyd â’i Fawrhydi Brenhinol Dug Caeredin, yn agor Canolfan Gelfyddydau Theatr Clwyd a’r Ganolfan Technoleg Addysgol yn swyddogol ar 21ain Mai 1976.

Chwaraeodd Cerddorfa Ieuenctid Clwyd yn yr achlysur a gyda’r nos cynhaliwyd Perfformiad Gala Brenhinol cyntaf Cymru yn Theatr Clwyd gydag ymddangosiadau gan Gerddorfa Symffoni’r BBC, Emlyn Williams ac Elizabeth Vaughan.

Perfformio un o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus a chofiadwy George Roman Death Of A Salesman yn y prif dŷ.

Blwyddyn enfawr o ran cynyrchiadau gyda Cabaret (1980), The Life Of Galileo (1980) a The Physicists (1980) a chynhyrchiad Jonathan Petherbridge o The Hitchhikers Guide to the Galaxy.

Cwmni Teledu HTV yn ymuno â’r safle yn 1980 a rhaglenni Cymraeg ar gyfer S4C, fel Ar Olwg a Siôn a Siân, yn cael eu cynhyrchu ar y safle.

Erbyn ei 10fed pen blwydd, roedd Theatr Clwyd wedi llwyfannu naw o ddramâu Shakespeare a gweithiau gan Webster, Goldsmith, Shaw, Wilde, Coward, Stoppard, Pinter, Shaffer, Ibsen, Chekhov, Brecht, Sophocles, Euripides ac Ayckbourn.

Roedd y repertoire a gynhyrchwyd hyd yma’n cynnwys mwy na 115 o ddramâu gan fwy na 50 o awduron. Mae’r cwmni’n cyflwyno mwy na 1000 o berfformiadau y flwyddyn.

Mae’r tîm yn cael ei arwain yn awr gan Toby Robertson (1985-1992), ac mae ei gynhyrchiad cyntaf, sef Night & Day gan Tom Stoppard, yn cynnwys Ralph Fiennes yn ifanc.

Cynhyrchiad hynod lwyddiannus Robertson o Anthony and Cleopatra gyda Vanessa Redgrave a Timothy Dalton yn trosglwyddo i’r Haymarket yn Llundain.

Cyfarwyddodd Robertson bron i 20 o ddramâu a gwahoddodd rai o’r actorion amlycaf i’r Wyddgrug, ac yn eu plith roedd Eileen Atkins, Vanessa Redgrave, Timothy Dalton, Maria Aitkin, Edward Fox, Joan Plowright, Saskia Reeves.

Helena Kaut-Howsen (1992-1995) yn ymuno fel Cyfarwyddwr Artistig – mae ei gweledigaeth yn cyflwyno gwaith Theatr Clwyd i gynulleidfa ryngwladol ac mae’n denu artistiaid mawr, gan gynnwys Syr Anthony Hopkins a Julie Christie.

Cynhyrchiad cyntaf Helena oedd The Devils yn 1992, ac wedyn yng Ngwanwyn 1993 cafwyd cynhyrchiad o Jane Eyre.

Anthony Hopkins yn cyfarwyddo ac yn serennu yn y premiere byd o August sydd wedi’i addasu o Uncle Vanya gan Chekhov (cafodd ei throi’n ffilm o’r un enw’n ddiweddarach!).

Erbyn mis Mai, mae Theatr Clwyd yn wynebu dyfodol hynod ansicr, heb Gyfarwyddwr Artistig a gydag ad-drefnu llywodraeth leol ar y gorwel.

Cyngor Sir Clwyd yn cael ei rannu yn bedwar awdurdod unedol newydd: Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam a Chonwy, ac roedd ansicrwydd ynghylch pwy fyddai’n berchen ar y theatr ac yn ei gweithredu a’i chyllido.

Y colli cyllid a ddilynodd yn arwain at argyfwng oedd yn fygythiad difrifol i fodolaeth Theatr Clwyd. Penodi Terry Hands, cyn Gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company, fel ymgynghorydd i ddiogelu dyfodol artistig ac ariannol i’r theatr.

Penodi Terry Hands yn Gyfarwyddwr Theatr Clwyd.

Ffurfio cwmni preswyl newydd, a chynhyrchu dramâu yn y repertoire.

Datblygu’r Theatr Deithiol a chynlluniau teithio uchelgeisiol o gymorth i’r cwmni fynd â’i waith i gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Ymhlith yr uchafbwyntiau o ran cynyrchiadau mae: Macbeth (1999 a 2008), King Lear (2001), To Kill A Mockingbird (2001), Brassed Off (2004) Under Milk Wood (2013), Hamlet (2013) a Memory (2006, a adfywiwyd yn Efrog Newydd yn 2007 ac yn Llundain a Thaith yng Nghymru yn 2008).

Y cwmni yn newid ei enw i Clwyd Theatr Cymru.

Tamara Harvey yn cael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig a’r cwmni’n dychwelyd at ei enw gwreiddiol: Theatr Clwyd.

Theatr Pobl Ifanc Clwyd Theatr Cymru yn dod yn dîm Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, gan roi sylw nodedig i waith Theatr Clwyd gyda phobl o bob oedran ac o bob cymuned leol ac yn cydnabod pa mor hanfodol bwysig yw’r celfyddydau i iechyd a lles pobl.

Liam Evans-Ford yn ymuno â Theatr Clwyd fel ei Chyfarwyddwr Gweithredol cyntaf.

Cynhyrchiad ar y cyd Theatr Clwyd a Sheffield Theatres o Uncle Vanya yn agor, mewn theatr gylch, wedi’i gyfarwyddo gan Tamara Harvey. Mae’n mynd ymlaen i ennill gwobrau am y Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Saesneg, y Cyfarwyddwr Gorau a’r Actor Ategol Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru.

Ein cynhyrchiad o The Assassination of Katie Hopkins wedi’i gyfarwyddo gan James Grieve yn agor i fri mawr ac yn ennill Gwobr Theatr y DU i’r Sioe Gerdd Orau.

Ein cynhyrchiad ar y cyd gyda’r National Theatre o Home, I’m Darling gyda Katherine Parkinson yn agor yn Theatr Clwyd, gyda Katherine Parkinson a Richard Harrison. Ar ôl gwerthu pob tocyn yn y National Theatre, mae’n symud i’r West End cyn taith genedlaethol ddaeth i benllanw gyda chyfnod yn ôl gartref yn Theatr Clwyd a phob tocyn wedi’i werthu.

Home, I’m Darling yn cael ei henwebu am bum Gwobr Olivier, ac yn ennill y wobr i’r Gomedi Newydd Orau.