Llun: Yonda Aerial Systems

Adeilad !

Adeiladwyd Theatr Clwyd yn 1976 gan Gyngor Sir Clwyd i wasanaethu’r rhanbarth gyda theatr a chelfyddydau o safon byd.

Cafodd ei hadeiladu i’r safonau uchaf yn 1976, ond mae’r 40 mlynedd diwethaf wedi gadael eu hôl – mae ein to ni’n gollwng, mae mecaneg a gwaith trydan yr adeilad yn cyrraedd diwedd eu hoes, nid yw ein hardaloedd i’r gynulleidfa’n gallu cyfateb bellach i brofiad ein gwaith rhagorol ni ar y llwyfan, ac mae’r mynediad i’r anabl yn ddifrifol. Mae timau creu’r theatr yn gweithio mewn hen gyfleusterau anaddas ac nid yw’r adeilad yn bodloni safonau iechyd a diogelwch modern.

Er bod rhoi plaster dros grac wedi ein cynnal ni dros y blynyddoedd, mae’n amlwg bellach nad yw ein hadeilad hyfryd ni’n addas i bwrpas.

Adroddiad Llygad

Yn 2010, dangosodd Arolwg Cyflwr Eiddo yn gwbl glir y byddai’r adeilad yn parhau i ddirywio heb fuddsoddiad sylweddol, gan lesteirio gwaith y theatr yn gynyddol, cyn dod yn beryglus yn y diwedd.

Ni allwn adael i hynny ddigwydd.

Rydyn ni angen yr adeilad yma ar gyfer ein cymunedau ni, ifanc, hen a’r cenedlaethau eto i ddod – i gyfoethogi ein heconomi ac i fod yn gartref diwylliannol a chymdeithasol ar gyfer pawb rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Rhaid i ni weithredu, a gweithredu nawr.

Newid a

Yng nghanol y 1990au ac eto yn 2012, lluniwyd cynlluniau ar gyfer ailddatblygu’r adeilad ond ni theimlwyd eu bod yn ymarferol.

Yn 2015, daeth Tamara Harvey yn Gyfarwyddwr Artistig yma ac wedyn, yn fuan iawn, ymunodd Liam Evans-Ford fel Cyfarwyddwr Gweithredol. Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru, aethant ati i adeiladu ar waddol anhygoel cyfarwyddwyr blaenorol y theatr (Terry Hands, Helena Kaut-Howson, George Roman a Toby Robertson), gan sicrhau ei bod yn esblygu ac yn gwneud cynnydd i fod yn sefydliad celfyddydau blaengar yn yr 21ain ganrif.

Llun gan Yonda Aerial Systems

0
Cyfanswm yr arolygon a gwblhawyd

Llun gan Sam Taylor

Dyfodol Newydd

Yn 2016 comisiynwyd astudiaeth newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ar ddechrau’r astudiaeth hon, gofynnwyd i chi sut oeddech yn teimlo am Theatr Clwyd.

Roedd yr ymateb yn anhygoel. Dro ar ôl tro, soniodd pobl am eu hangerdd am yr adeilad a’r gwaith rydym yn ei wneud ynddo.

Yn yr astudiaeth ddichonoldeb ddilynol, o dan arweiniad y penseiri enwog yn rhyngwladol, Haworth Tompkins, tynnwyd sylw at yr angen am ailddatblygu sylweddol a chafwyd cipolwg ar y ganolfan ddiwylliannol ryfeddol y gallai fod yn yr 21ain ganrif.

Wedyn cyllidodd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint y cam nesaf – arolygon manwl ar yr adeilad presennol a datblygu pellach ar y cynlluniau ysbrydoledig a allai helpu i greu ein dyfodol disglair.